PET(4) SAR 02
Y Pwyllgor Deisebau
Ymateb gan Cymdeithas y Cymod
‘Na’ i’r Fyddin Fynychu Ysgolion
Anerchiad ar risiau’r Senedd, Caerdydd, 14 Tachwedd 2012
Gan Robin Gwyndaf
Is-Lywydd Cymdeithas y Cymod
Mae pob bywyd yn sanctaidd. Y mae gan bob person yr hawl i fyw. Ond ymhob rhyfel, y nod ydi dwyn bywyd – lladd. A’r canlyniad? Poen a dioddefaint dibendraw; dryllio teuluoedd a chymunedau.
Ar daflen Cymdeithas y Cymod yng Nghymru fe sgrifennwyd y geiriau hyn:
‘…wedi miloedd o flynyddoedd o ryfela, mae’r byd [heddiw] yn y cyflwr mwyaf peryglus y bu erioed. Y gred mewn rhyfel sy’n gyfrifol am hyn. Rhyfel yw’r broblem, nid yr ateb.’
Dyna’r neges y dylai plant ysgol ac ieuenctid gael ei chlywed heddiw. Ond be sy’n digwydd mewn rhai ysgolion yng Nghymru? Y Fyddin yn cael caniatâd i ymweld â’r ysgolion hynny ac i annog plant i ymuno.
O’r 27 o wledydd yn y Gymuned Ewropeaidd, Prydain ydi’r unig un i ganiatau hyn. Er bod hynny’n groes i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant. Ac er bod Prydain ei hun wedi llofnodi’r union Gonfensiwn hwn. Y fath ragrith! Y fath sefyllfa dorcalonnus
Y mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes a wnelo nhw ddim byd â hyn oll, Llywodraeth Prydain sy’n gyfrifol am faterion amddiffyn. Dyna ni, dyna’r drefn. Ond rydym ni yma heddiw i ddweud wrth bob un aelod o’r Cynulliad bod ganddyn nhw gyfrifoldeb.
Y mae ganddyn nhw, mae gan aelodau’r eglwysi, mae gan aelodau pob cymdeithas a mudiad yng Nghymru - mae gan bawb, yn cynnwys ni, ein rhan hollbwysig i sicrhau: yn lle ein bod ni’n hyrwyddo diwylliant rhyfel a thrais, ein bod ni’n hyrwyddo diwylliant heddwch a chyfiawnder.
Wrth gwrs, bydd y Fyddin yn dadlau nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn recriwtio; dim ond addysgu y maen nhw. Hynny ydi, dweud y maen nhw: gyrfa mor anturus ac ardderchog ydi’r Fyddin, ac yn enwedig pan fo cymaint o ieuengtid yn ddi-waith. Ond a yden ni i gredu hyn? Fydd rhywun yn sôn wrthyn nhw hefyd am y galon o garreg y mae’n rhaid iddyn nhw ei gael i ladd un o’i cymrodyr ar faes y gâd? Fydd rhywun yn sôn wrthyn nhw hefyd am ofn a phryder ac, yn aml, gofid teulu yn aros, ddydd ar ôl dydd i glywed newyddion am eu hannwyl fab neu ferch? Ac a fydd rhywun yn sôn wrthyn nhw am yr effaith ddirdynnol y mae rhyfel a bywyd yn y fyddin yn gallu’i gael ar bersonoliaeth ac iechyd?
Rydyn ni yma heddiw, felly, i gyflwyno deiseb ac i ddweud mewn llais clir wrth Lywodraeth Cymru am wahardd y Fyddin yn llwyr rhag ymweld ag unrhyw un ysgol yn ein gwlad. Ac yn lle hynny, rydyn ni’n gofyn i’r Llywodraeth sicrhau y bydd astudiaethau cyfiawnder, heddwch a hawliau dynol yn dod yn rhan greiddiol o addysg plant ac ieuenctid Cymru.